HUNANIAETH A SYNNWYR O BERTHYN O FEWN CLYBIAU CHWARAEON CYMRAEG DINAS CAERDYDD
View/ open
Author
Davies, Tomos
Date
2012Type
Thesis
Publisher
University of Wales Institute Cardiff
Metadata
Show full item recordAbstract
Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar resymau Cymry Cymraeg Caerdydd dros chwarae i glwb pêl-droed Cymric a Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC), a darganfod pam bod y chwaraewyr yn teimlo synnwyr o ’berthyn’ a hunaniaeth ddiwylliannol o fewn y gymuned. Mae cael clybiau sy’n dilyn diwylliant Cymreig a siarad yr iaith Gymraeg yn unigryw iawn ym mhrif ddinas Caerdydd o ganlyniad i dwf economaidd y ddinas sydd wedi denu mewnfudwyr di-Gymraeg yno. O ganlyniad, mae’n bwysig darganfod sut mae hunaniaeth ddiwylliannol y clwb yn cael ei ffurfio a’i ddatblygu. Cafodd dull ansoddol ei ddefnyddio gan ganolbwyntio ar hanesion bywydau unigolion o fewn y clwb. Defnyddiwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws er mwyn casglu gwybodaeth am hanesion a phrofiadau aelodau Clwb Cymric a CRCC, ac felly’n edrych yn ddwfn mewn i resymau’r unigolion dros ymuno.
Mae’r ymchwil yn dangos bod unigolion yn gallu datblygu teimladau o berthyn a hunaniaethau penodol drwy ymglymu gyda grwpiau chwaraeon. Yng nghyd-destun Cymric a CRCC mae ymuno gyda’r clybiau yn atgyfnerthu ac arddangos agweddau’r diwylliant Cymreig ac yn ei gwneud hi’n bosib i unigolion chwarae a chymdeithasu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae’n glir o’r ymchwil bod aelodau Clwb Cymric a CRCC yn pwysleisio bod nhw’n teimlo eu bod yn perthyn i’w gilydd, fodd bynnag, nid yw’r rhesymau dros hyn mor glir a fyddai rhai yn tybio. Mae’r ymchwil yn egluro nad yw ystyr y term hunaniaeth mor syml a chlir gan ei fod yn cynnwys amryw o ffactorau sydd yn ymglymu gyda'i gilydd ac nid yn cael ei greu gan un nodwedd benodol. O ganlyniad, gall nifer o bobl deimlo perthyn i hunaniaeth benodol am nifer o resymau amrywiol a hyd yn oed gwahanol i aelodau eraill o fewn yr un clwb.