O Theori i Ymarfer: Canfyddiadau Athrawon Addysg Gorfforol ar Addysg Gorfforol Ansawdd Uchel o Fewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn Ne Cymru
Author
Edwards, Lowri
Date
2013Type
Thesis
Publisher
Cardiff Metropolitan University
Metadata
Show full item recordAbstract
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’n hysbys bod y llywodraeth wedi argymell i bob
disgybl yng Nghymru cwblhau dwy awr o Addysg Gorfforol (AG). Serch hyn,
mae’n hanfodol i’r ddwy awr fod o ansawdd uchel fel eu bod yn effeithiol. Mae
athrawon AG yn gyfrifol i weithredu'r AG ansawdd uchel, felly prif nod yr
astudiaeth bresennol oedd darganfod canfyddiadau athrawon AG ar arfer da o AG
ansawdd uchel mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ne Cymru. Rhesymwaith dros
ddewis ysgolion cyfrwng Cymraeg oedd gan fod diffyg ymchwil ar addysg trwy’r
iaith Gymraeg, yn enwedig edrych ar ganfyddiadau'r athrawon. Cafodd ddulliau
ansoddol o gasglu a dadansoddi data ei fabwysiadu, trwy’r defnydd o gyfweliadau
lled-strwythuredig a dadansoddiad cynwysedig diddwythol, anwythol, diddwythol.
Cynhaliwyd y cyfweliadau gyda thri athro ag un athrawes AG a wnaeth mynychu’r
gynhadledd Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol 'Gwneud y Mwyaf o Addysg
Gorfforol' ym mis Mehefin 2012. Ymddangosodd dwy prif thema o’r ymchwil, sef
canfyddiadau athrawon ar AG ansawdd uchel a’r effaith ôl-gynhadledd.
Dangosodd y canlyniadau bod bwlch rhwng theori ac ymarfer, yn benodol roedd
yna ddryswch rhwng y term lythrennedd corfforol a llythrennedd mewn AG. Yn
ychwanegol, pwysleisiodd y canlyniadau bod lefel o weithrediad AG ansawdd
uchel yn dibynnu ar y lleoliad yng Nghymru yn ogystal ag amlinellu sut mae
perthynas rhwng yr athro a’r disgyblion yn hanfodol er mwyn creu amgylchedd
dysgu cadarnhaol. O ran y gynhadledd, amlygodd bod y seminarau mwyaf
effeithiol oedd ‘Arweinydd Chwaraeon’ a Thechnoleg Gwybodaeth (TGCh).
Goblygiad yr astudiaeth yw bod angen i’r llywodraeth gweithio ar un diffiniad clir o
lythrennedd corfforol ac addysgu athrawon AG ar y diffiniad. Ac felly, dylai ymchwil
yn y dyfodol cynnal ymchwil gweithredu i hybu’r term llythrennedd corfforol, yn
ogystal â chyfweld mwy o athrawon wnaeth mynychu’r gynhadledd er mwyn
wella’r gynhadledd nesaf.
Collections
Related items
Showing items related by title, author, subject and abstract.
-
O Theori i Ymarfer: Archwilio Mewn i Ganfyddiadau Athrawon Cynradd ar Arddulliau Dysgu i Greu Addysg Gorfforol Ansawdd Uchel Mewn Ysgolion Cynradd.
Thomas, Rhys (Cardiff Metropolitan University, 2015)Prif nod yr astudiaeth oedd ymchwilio mewn i ganfyddiadau athrawon ysgol gynradd Gorllewin Cymru ar addysgu AGAU ar ddefnydd o arddulliau dysgu er mwyn creu AGAU. Y prif reswm dros ddewis ysgolion Cymraeg oedd bod prinder ... -
A yw cynnwys rhifedd ar draws y cwricwlwm mewn amryw o wersi yn enwedig addysg gorfforol wedi cael effaith ar ddatblygiad rhifedd disgyblion
Shepherd, Steffan (Cardiff Metropolitan University, 2015)O ganlyniad i fframwaith sgiliau aneffeithiol (Estyn 2011, 2012) a pherfformiad gwael i Gymru yn canlyniadau PISA 2012, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fframwaith newydd rhifedd a llythrennedd (FfLlRh) yn ofyniad statudol ... -
Canfyddiadau Athrawon ar Gyflwyno Addysg Gorfforol Ansawdd Uchel o Fewn Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg yng Nghorllewin Cymru
Jones, Dafydd (Cardiff Metropolitan University, 2014)Prif nod yr astudiaeth oedd i ymchwilio mewn i ganfyddiadau athrawon o gyflwyno Addysg Gorfforol (AG) ansawdd uchel mewn ysgolion cynradd Cymraeg yng Ngorllewin Cymru yn sir Geredigion. Fy rhesymeg dros ddewis ysgolion Cymraeg ...