Datblygu Sgiliau Llythrennedd trwy Addysg Gorfforol

View/ open
Author
Stone, Catrin
Date
2014Type
Thesis
Publisher
Cardiff Metropolitan University
Metadata
Show full item recordAbstract
Mae yna ddiffyg llenyddiaeth ac ymchwil a’r llythrennedd ac yn benodol o
fewn o fewn addysg gorfforol (AG) o fewn Ysgolion Cymraeg. Y rhesymeg o’r brif
nod o’r astudiaeth bresennol oedd nodi'r datblygiad lythrennedd bobl ifanc trwy AG
gan nodi canfyddiadau athrawon a'r defnydd o'r pecyn 'Physical Education Talking
Tool Kit'(PETTK) o fewn ysgolion Cymraeg. Cynhaliwyd ymchwil ansoddol a wnaeth
fabwysiadu’r dull o gyfweliadau lled-strwythuredig â thair athrawes ysgol uwchradd,
darlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a chydlynydd AG a chwaraeon ysgol
(AGCHY) sydd i gyd yn arbenigwyr yn AG. Roedd trawsgrifiadau'r cyfweliadau yn
llwyddiannus trwy gynnwys dadansoddiad anwythol ac ymgorffori meini prawf
dibynadwy priodol. Arddangoswyd dwy brif themâu o’r cyfweliadau oedd yn
gysylltiedig â llwyddiant llythrennedd (adnoddau a chymorth) ac yn ail, lwyddiant y
‘PETTK’ (defnydd a chanfyddiadau athrawon o fewn AG). Mae canlyniadau'r
astudiaeth hon yn dangos bod Fframwaith llythrennedd ac enwedig y pecyn 'PETTK'
wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus i mewn i wersi AG gan fabwysiadu’r dull o AG
o ansawdd uchel.
Dylai ymchwil pellach ymchwilio i mewn i ganfyddiadau’r bobl ifanc ar y
trosglwyddiad a’r defnydd o lythrennedd a’r pecyn 'PETTK' ar eu dysgu ac os oes
wedi hybu eu canfyddiadau o siarad a gwrando a'u dealltwriaeth o’r fframwaith.
Description
DEGREE OF BACHELOR OF SCIENCE (HONOURS)
SPORT AND PHYSICAL EDUCATION