Dadansoddiad papurau newydd Cymru a Phrydain dros adeg y Gemau’r Olympaidd a’I berthynas a hunaniaeh genedlaethol

View/ open
Author
Evans, Gwawr
Date
2014Type
Thesis
Publisher
Cardiff Metropolitan University
Metadata
Show full item recordAbstract
Pwrpas yr astudiaeth i’w i geisio datgelu dyfnder mewn trafodaeth ynglŷn â’r berthynas
rhwng Cymru a Phrydain ;wladwriaeth genedlaethol a chenedl heb wladwriaeth. Mae’r
astudiaeth yma yn canolbwyntio ar sylw a rhoddir i’r gemau’r Olympaidd dros dri phapur
newydd Cymraeg, sef Y Cymro, The Western Mail a’r South Wales Echo wrth gymharu â
chyferbynnu gyda’r sylw a ddarperir gan bapurau Prydeinig sef The Times of London a’r
Daily Mirror. Er mwyn cyfoethogi’r astudiaeth mae defnydd o ymchwil cymdeithaseg ar
godau habitus, traddodiadau a chymunedau dychmygol yn cael ei ddefnyddio i
gyfiawnhau’r berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a chwaraeon. Y mae hyn yn cael
ei wneud gan ddefnyddio dull meintiol fel cyflwyniad i’r drafodaeth ar ddull ansoddol er
mwyn dadansoddi cynnwys y papurau newydd dros gyfnod y Gemau’r Olympaidd 2012.
Mae’r canlyniadau yn amlygu pwysigrwydd y cyfryngau er mwyn hybu ymdeimlad o
hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru ac ym Mhrydain. Gwelwyd y pwysigrwydd hwn yn y
themâu a chodwyd trwy gydol y dadansoddi. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’r papurau
newydd er mwyn atgyfnerthu’r drafodaeth yr oedd tri phrif thema a chodwyd yn gyson sef
Prydeindod, Prydeindod a Seisnigrwydd a Chymru a’r cyfryngau. Defnyddiwyd symbolau
ac arferion amleiriog megis y faner unedig, y cefnogwyr, y teulu brenhinol, cyfeiriadau
hiraethus a’r defnydd o ragenwau personol er mwyn ailddatgan hunaniaeth genedlaethol
berthnasol.
Amlygwyd y themâu bod yna ddwy hunaniaeth genedlaethol wahanol yn cael ei
harddangos dros gyfnod y Gemau’r Olympaidd sef Cymraeg a Prydeinig. Yr oedd y tri
phapur Cymraeg yn darparu mwy o sylw ar athletwyr Cymru ag yn creu naws Cymraeg
iawn yn ei hadrodd. Mewn cymhariaeth, yr oedd papurau newydd Prydain yn cyfleu
ymdeimlad Prydeinig wrth iddo geisio hybu gwladgarwch ond eto i gyd trwy ddylanwad
Saesneg yr oedd hyn yn creu ymwybyddiaeth o’r rhaniadau yn yr ymylon Celtaidd a
Lloegr.
Y mae’r canlyniadau yma yn creu canfyddiadau o gwmpas bodolaeth Cymru fel cenedl a’i
safle a’i phwrpas o fewn Prydain wrth iddo feddu ar sylw’r cyfryngau er mwyn adeiladu
hunaniaeth genedlaethol unigol, y tu hwnt i Brydain fawr.
Description
DEGREE OF BACHELOR OF SCIENCE (HONOURS)
SPORT AND PHYSICAL EDUCATION