Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen

View/ open
Author
Rhys, Mirain
Date
2018-03Acceptance date
2017-05-09
Type
Article
Publisher
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
ISSN
1741-4261
Metadata
Show full item recordAbstract
Mae’r Cyfnod Sylfaen (CS) yn gwricwlwm statudol ym mhob ysgol gynradd y wladwriaeth yng Nghymru ers 2008. Mae’r bedagogeg yn ddatblygiadol, ac yn annog y plant i ymddiddori drwy ddysgu drwy brofiadau. Mae’r papur hwn yn rhan o werthusiad ehangach o’r CS a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, ac mae’n ystyried un o’r saith maes dysgu sy’n rhan o’r CS; Datblygu’r Gymraeg. Darganfu nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn sut oedd y CS yn cael ei weithredu mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ond, yn gyffredinol, datblygir y Gymraeg yn ffurfiol mewn gweithgareddau boreol ar gyfer y dosbarth cyfan (e.e. amser cylch) sy’n mynd yn groes i weledigaeth Llywodraeth Cymru o gydblethu’r iaith ym mhob agwedd ar y CS. Mae’r papur yn ystyried sut mae ysgolion a lleoliadau yn mynd ati i ddatblygu unigolion dwyieithog, yn ôl gobeithion polisi Llywodraeth Cymru
Journal/conference proceeding
Gwerddon;
Citation
Rhys, Mirain (2018) ‘Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’, Gwerddon, 26, Mawrth 2018, pp.39–68
Description
This article was published open access in Gwerddon in March 2018, available at http://www.gwerddon.cymru/cy/rhifynnau/rhifyn26/erthygl2/
Sponsorship
Cardiff Metropolitan University (Grant ID: Cardiff Metropolian (Internal))
Collections
- Un-themed [104]